Yn y modiwl hwn byddwn yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng meddylfryd prosiect a chynhyrchion. Mae hynny oherwydd ei fod yn dylanwadu ar y dull y byddwch chi'n ei gymryd i ddarparu gwasanaeth.
Yn dilyn hynny, byddwn yn edrych ar sut y gallwn gyflwyno gweledigaeth trwy gael map ffordd wedi'i alinio. Byddwn hefyd yn archwilio sut y gallwn ddefnyddio metrigau i fesur cynnydd.
Yn olaf, byddwn yn edrych ar wahanol fframweithiau cyflenwi Ystwyth. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa ddull sy'n iawn i chi a'ch cyd-destun.